Glynne

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:51, 18 Hydref 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Glynne yn un sillafiad ar gyfenw sydd yn lled gyffredin mewn sawl ardal ac yng Nghernyw. Nid yw pob Glyn, Glynn neu Glynne felly yn perthyn i'w gilydd.

Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, mai cyfenw wedi ei fabwysiadu gan deulu Glynllifon, sef disgynyddion Robert ap Meredydd ap Hwlcyn Llwyd, ydyw. Bu sawl gangen o'r teulu, gan gynnwys rhai a fu'n ymrafael â'i gilydd. Amrywiol iawn yw'r sillafiad a ddefnyddid, o genhedlaeth i genhedlaeth ac yn aml hyd yn oed gan yr un unigolion.

Yng nghyd-destun Cof y Cwmwd, rhaid oedd dewis un sillafiad er mwyn cysondeb ac i hwyluso chwilio a mynegeio, ac felly penderfynwyd defnyddio GLYNN fel arfer. Ceisir creu croesgyfeiriadau lle bo'n briodol o un sillafiad i'r lleill.