Clawdd Seri
Mae Clawdd Seri yn ffos a chlawdd sy'n rhedeg ar draws fynydd-dir Clipiau i'r de o Gurn Ddu a Bwlch Mawr. Credir iddo fod yn nodi ffin hen luest neu dir a amaethwyd gan fynaich Aberconwy yn y 13-16g.[1] Mae dros gilometr o olion, sef ffos gyda chloddiau y ddwy ochr iddi, i'w geld ar y rhostir, yn cychwyn ym mhen pellaf Cwm Ceiliog, plwyf Llanaelhaearn ac yn rhedeg bron at y Seler Ddu ym mhlwyf Clynnog Fawr. Gan fod siartr Llywelyn ab Iorwerth, circa 1200, yn ei newi, mae'n bosibl fod y clawdd yn dyddio cyn yr adeg pan roddwyd tiopredd Cwm i Abaty Aberconwy.[2] Mae Llwybr Arfordir Llŷn yn rhedeg heibio i'r safle.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma