Cwm (trefgordd)
Rhoddwyd trefgordd Cwm yn ardal mynyddoedd Gurn Ddu a Bwlch Mawr i fynaich Sistersaidd Aberconwy gan Llywelyn ab Iorwerth yn y 13g. Roeddynt hefyd yn berchen ar lluest neu ffermdir Rhedynog Felen yn nhrefgordd Dinlle. Parhaodd yr ardal ym meddiant y Sistersiaid hyd nes i'r mynachlogydd gael eu diddymu yn y 1530au.
Mae cryn nifer o olion o amaethu a thai fferm cyfnod y Canol Oesoedd hwyr i'w gweld, yn arbennig ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr a llethrau Moel Bronmiod.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma