Cwm Gwared

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:04, 9 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwm Gwara yw'r cwm cul y mae Afon Hen yn rhedeg ar ei hyd. Mae'r cwm yn ymestyn o ystlys Mynydd Gurn Goch ac yn rhedeg rhwng y mynydd hwnnw a Mynydd Bwlch Mawr i lawr i bentref Gurn Goch. Ym mhen uchaf un y cwm cae Cors y Ddalfa, lle ceir olion hen waith manganîs. Mae fferm o'r un enw ar ochr ogleddol y cwm. Cwm coediog ydyw, wedi ei blannu gan Ystad Glynllifon mae'n debyg. Gwerthwyd llawer o'r coed yn y 1870au-1880au. Yn wreiddiol, roedd Cwm Gwara'n rhan o ystad teulu Llwydiaid,Tŷ Mawr, Clynnog Fawr. Bu'r fferm a'r cwm yn eiddo i Glynllifon ers rywbryd tua 1721 pan brynodd John Wynn, Glynllifon, Gwm Gwara, ynghyd â Thŷ Mawr, a hefyd Maesmawr a Choed Hywel yn nhrefgordd Dinlle oddi wrth Philip Lloyd, gŵr bonheddig a oedd wedi symudd o Gwm Gwara i Lundain. Y pris a dalwyd am y cwbl oedd £1170, swm sylweddol dros ben y pryd hynny.[1]

Mae mapiau'n tueddu galw'r cwm yn Gwm Chwara neu'n Gwm Gwared. Mae Myrddyn Fardd yn ei lyfr ar enwau lleoedd yn mynnu mai enw cywir y cwm yw Cwm Gwaedd, sef Cwm Tirion neu Hynaws, ond prin bod yr esboniad yn taro tant.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/7710-7727
  2. John Jones (Myrddin Fardd), Enwai Lleoedd Sir Gaernarfon (Caernarfon, d.d.), t.219