Crib Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:58, 5 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y Garn, mynydd mwyaf dwyreiniol Crib Nantlle

Crib Nantlle yw'r enw ar gefnen uchel o fynyddoedd ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle. Mae'n ffurfio ffin deheuol Uwchgwyrfai hefyd, rhwng y cwmwd hwnnw a Chwm Pennant yng nghwmwd Eifionydd. O'r dwyrain i gyfeiriad y gorllewin, y mynyddoedd sy'n ffurfio Crib Nantlle yw Y Garn, Mynydd Drws-y-coed, Trum y Ddysgl, Mynydd Tal-y-mignedd, Craig Cwm Silyn, Garnedd Goch, Craig Cwm Dulyn ac yn terfynu gyda Mynydd Craig Goch. Mae'r darn uchaf, sef ar Graig Cwm Silyn, yn 2408 o droedfeddi (734 o fetrau) uwchben y môr.[1]

Mae cerdded Crib Nantlle yn daith boblogaidd gyda cherddwyr mynydd profiadol, ond mae darnau serth ac ambell i le peryglus sydd yn gwneud y daith yn anaddas ar gyfer y rhai llai egnïol neu lai profiadol.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Mapiau Ordnans