Cwm Silyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:50, 3 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cwm Silyn yn gwm uchel sydd yn gorwedd yng nghysgod Craig Cwm Silyn ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle. Mae Cwm Silyn ym mhlwyf Llanllyfni. Cwm bychan ydyw, yn cynnwys dau lyn llonydd a thywyll. Mae olion hafoty ar lan y llyn isaf. O geg y llyn isaf, rhed afonig yn syth i'r gogledd ar draws y rhostir cyn syrthio i waelod y dyffryn trwy geunant a chyn cyrraedd safle Llyn Nantlle Isaf nid nepell o fferm Tŷ Coch. Erbyn heddiw mae'r rhedeg yn syth i Afon Llyfnwy.

Yr unig ffordd hwylus o gyrraedd Cwm Silyn heddiw yw ar hyd llwybr mynydd o gyfeiriad Nebo.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau