John Hywyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:43, 22 Awst 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
John Hywyn yn cael ei goroni yn Eisteddfod Môn, Amlwch, 1964

Mae John Hywyn (John Hywyn Edwards nes iddo ollwng y cyfenw) yn fab i ficer ac fe'i anwyd yn Llandudno. Bu'n brifathro Ysgol Brynaerau am nifer o flynyddoedd, gan wneud ei gartref yn Nhŷ'n y Maes, plwyf Llanwnda ger Dôl Meredydd, Llandwrog. Mae o'n dal i fyw yn ardal Llandwrog. Ei wraig oedd yr awdures llyfrau plant, Gwenno Hywyn a fu farw 1992.

Mae John Hywyn yn fardd llwyddiannus: enillodd coron Eisteddfod yr Urdd, Llanrwst, 1968 (pan yn byw ym Mynydd Llandygái) a choron Eisteddfod Môn, 1974, ymysg sawl wobr eisteddfodol arall. Mae'n feirniad poblogaidd a chraff mewn eisteddfodau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau