John Hywyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:40, 22 Awst 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae John Hywyn (John Hywyn Edwrads nes iddo ollwng y cyfenw) yn fab i ficer ac fe'i anwyd yn Llandudno. Bu'n brifathro Ysgol Brynaerau am nifer o flynyddoedd, gan wneud ei gartref yn Nhŷ'n y Maes, plwyf Llanwnda ger Dôl Meredydd, Llandwrog. Mae o'n dal i fyw yn ardal Llandwrog. Ei wraig oedd yr awdures llyfrau plant, Gwenno Hywyn a fu farw 1992.

Mae John Hywyn yn fardd llwyddiannus: enillodd coron Eisteddfod yr Urdd, Llanrwst, 1968 (pan yn byw ym Mynydd Llandygái) a choron Eisteddfod Môn, 1974, ymysg sawl wobr eisteddfodol arall. Mae'n feirniad poblogaidd a chraff mewn eisteddfodau.