Teulu Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:37, 22 Awst 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Teulu Glynllifon yn un o'r teuluoedd mwyaf hirhoedlog ymysg uchelwyr cwmwd Uwchgwyrfai, gyda'u hachau'n ymestyn yn ôl yn gadarn i rai o uchelwyr dan y Tywysogion Cymreig. Yn ystod y 16g. fe mabwysiadodd y teulu'r cyfenw "Glynn" (neu "Glyn" -roedd y sillafiad yn newid o un ddogfen i'r nesaf fel oedd yn arferol cyn sefydlu orthograffeg enwau). Roedd hyn yn dilyn yr arfer dan brenhinoedd y Tuduriaid i gydymffurfio ag arferion Seisnig eu cymheiriad yn Lloegr.

Methodd y llinach trwy'r ochr wryw tua diwedd y 17g. pan fu merch hynaf y plas briodi aelod o deulu Boduan, Llŷn oedd yn arddel y cyfenw "Wynn". Ers yr adeg honno, Wynn yw cyfenw'r teulu. Ers 1776, mae mab hynaf y teulu wedi etifeddu teitl, sef Arglwydd Newborough. Mae yna Arglwydd Newborough o hyd, sydd yn dal i fod yn berchennog ar dir yn Uwchgwyrfai.