Manon Rhys

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:11, 19 Awst 2019 gan Gari (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Llenor yw Manon Rhys (ganwyd 1948) sydd yn olygydd, yn sgriptwraig deledu, ac yn awdures nofelau Cymraeg. Ganed hi yn Nhrealaw, Y Rhondda, yn ferch i'r athro, y bardd, a'r dramodydd James Kitchener Davies.

Bywgraffiad

Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen, Treorci, ac Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth. Symudodd y teulu i Brestatyn a mynychodd Ysgol Glan Clwyd Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Bu'n athrawes Gymraeg am gyfnod cyn symud i faes ysgrifennu sgriptiau teledu a ffilm, gan weithio ar raglenni megis Pobol y Cwm a chyfres Y Palmant Aur. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1988. Mae hi hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol.

Mae'n briod â T. James Jones; mae ganddi ddau o blant, ac mae'n llysfam i ddau. Mae'n fam-gu i saith o wyrion. Mae ei chysylltiad â Uwchgwyrfai yn hanu o'r ffaith y bu hi â'i gŵr cyntaf, Richard Morris Jones y darlledwr, fyw am gyfnod sylweddol yn nhŷ Dol Meredydd, plwyf Llandwrog.

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2011 gyda Neb Ond Ni; hi oedd yr enillydd cyntaf y cyflwynwyd iddo'r fedal gan ei briod.

Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Tudalen Wicipedia am Manon Rhys, cyrchwyd 19.8.2019