John John Roberts (Iolo Caernarfon)
Ganwyd John John Roberts (1840-1914) yn Nhir Bach, plwyf Llanllyfni ym 1840, yn fab i fonwysyn o Amlwch, John Roberts i weithio yn chwareli Dyffryn Nantlle. Yn ifanc, ymunodd y mab â'i dad yn y chwarel. Roedd yn hen yn dechrau pregethu, yn 27 oed. Aeth i Ysgol Ragbaratoawl Clynnog ac wedyn i Goleg y Bala, 1868-72. Ar ol cyfnod byr yn weinidog gyda'r Methodistiaeth Calfinaidd yn Nhrefriw, symudodd i Gapel Tabernacl, Porthmadog, lle bu nes ymddeol ym 1909.
Roedd o'n fardd o fri, ac enillodd y goiron yn yr Eisteddfod Gendlaethol deirgwaith, ym 1890, 1891 ac 1892, yn ogystal allawer o wobrau eraill am farddoni.Bu'n barddoni dan yr enw Iolo Caernarfon. Cyhoeddodd saith gyfrol o farddoniaeth a materion crefyddol.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ ‘’Y Bywgraffiadur Cymreig’’ (Llundain, 1953), t.817: erthygl gan R.T. Jenkins