David Thomas, W.E.A.

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:02, 12 Gorffennaf 2019 gan Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cafodd David Thomas (1880-1966) ei eni yn LLanfechain, Gogledd Sir Drefaldwyn. Enillodd radd M.A. ym 1928 gan Brifysgol Lerpwl, ac ym 1960 dyfarnwyd M.A. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru.Bu'n athro ysgol yn Llanfyllin ac wedyn mewn nifer o ysgolion yng Nghymru a Lloegr. O 1923 hyd 1945 bu'n dysgu ym Mangor. Mae o'n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gysylltiad â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Ngogledd Cymru, ac fel awdur ac undebwr. Bu'n olygydd Lleufer, cylchgrawn CAyG.[1] Ymysg ei lyfrau poblogaidd oedd Hen Longau Sir Gaernarfon (1949) a Cau'r Tiroedd Comin (1952), y ddau'n ymwneud i raddau ag Uwchgwyrfai a llyfrau mwy athronyddol neu gyffredinol eu naws megis:

  • Y Werin a'i Theyrnas (1910)
  • Y Cynganeddion Cymreig (1923)
  • Y Ddinasyddiaeth Fawr (1938
  • Dyddiau i'w Cofio (1948)
  • Silyn (Robert Silyn Roberts), 1870-1930 (1956)
  • Ann Griffiths a'i Theulu (1963).

Roedd David Thomas yn daid i'r awdures Angharad Tomos ar ochr ei thad.


Cyfeiriadau

  1. Manylion am ei yrfa yn ei gyfrol ar Ann Griffiths: Ann Griffiths a'i Theulu, (Dinbych. 1963)