Tafarn y Goat, Llanwnda
Roedd Tafarn y Goat (ni alwodd neb y lle'n "Afr") yn Llanwnda oedd y dafarn a wasanaethai yr orsaf gerllaw. Roedd yn cael ei gadw am flynyddoedd lawer gan aelodau o'r un teulu Griffiths oedd hefyd yn gyfrifol am werthu glo o iard yr orsaf ac yn rhedeg modurdy ar draws y ffordd i'r dafarn. Mae'r adeilad yn sefyll yno o hyd, wedi ei foderneiddio ar ryw adeg, er i'r tu mewn roedd yn parhau ar ei ffurf Fictorianaidd nes iddi gau tua 2004.
Am flynyddoedd nes iddi gau roedd yn nodedig am gymreictod y gwmnïaeth ac yn gyrchfan i Gymry mwyaf genedlaetholgar y fro - er na chaniateid canu yno!
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
[[Categori:Tafarndai]