Pont Weddus

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:58, 8 Gorffennaf 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Codwyd pont dros Afon Weddus ym mhlwyf Clynnog Fawr. Dichon mai "Pont Weddus" oedd ei henw.

Mae'n bosibl mai'r bont gyntaf i'w codi oedd yr un a wnaed yn newydd ym 1776-7 ar orchymyn y Llys Chwarter ar y ffordd dyrpeg. Pont un bwa, 21 ' ar draws oedd y bont honno. Yr adeiladwyr oedd Francis Roberts, Coch-y-big, Clynnog Fawr, iwmon; Meyrick Roberts, Brysgyni, Clynnog fawr, saer coed; a Robert Roberts, Clynnog Fawr, saer coed. Roeddent hefyd i godi bont dros Afon Llifon, Llandwrog]], sef Pont Plas Newydd, a chost y ddwy bont oedd £200 am y bont dros y Llifon a £100 am Pont Weddus|Bont Weddus.[1]

Mae peth ansicrwydd ynglŷn â pha afon neu nant oedd yr Afon Weddus, ond mae'n bur debyg mai'r afonig sy'n rhedeg trwy bentref Clynnog ar hyd ochr y tŷ capel, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Tŷ Coch. Dichon felly mai ger Tŷ Coch yw, neu oedd, Pont Weddus.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau


Archifdy Gwynedd, XPlansB/169

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/169
  2. Gwybodaeth ar lafar gan Marian Elias Roberts