Afon Garth
Afon fechan sy'n rhedeg i mewn i Lyn Nantlle Uchaf yw Afon Garth. Dyma'r afon sy'n llifo dan Pont Baladeulyn yng nghanol pentref Nantlle. Mae'n codi gerllaw Parc ym mhen draw Y Fron, ac yn llifo i lawr dyffryn bach bas heibio i ffermydd Caeronwy Isaf a Phen-y-garth.