Pont Cyrnant
Saif Pont Cyrnant neu Bont Crynnant ar ffin Uwchgwyrfai ar draws Afon Gwyrfai ger bentref y Waumfawr, ar yr hen ffin rhwng plwyfi Llanbeblig a Llanwnda. Hen bont oedd yno cyn 1776, ond yn y flwyddyn honno, gorchmynnodd y Llys Chwarter y dylid ei hailadeiladu'n llwyr, gan lledu'r ddau hen fwa fel eu bod yn 18' o led (gen eu bod gynt ond yn 10' o led) ar draws y ffordd, a'r bwáu'n 21' o rychwant. y sawl a gafodd y contract oedd David Parry, Caernarfon, llosgwr calch; Thomas Roberts, Caernarfon, saer maen; Owen Prichard, Caernarfon, saer maen; a Lewis Ellis, Pont-y-saint, Llanbeblig, iwmon. Cost y gwaith oedd £195.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
Archifdy Gwynedd, XPlansB/
- ↑ Archifdy Gwynedd, XPlansB/170