Llys Chwarter

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:44, 27 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y Llys Chwarter oedd y corff pwysicaf o ran rheoli'r sir rhwng 1541 a 1889, gan weithredu'n gynyddol fel cyngor sir yn ogystal â chosbi troseddwyr - yn edrych ar ôl y tlodion, ffyrdd, pontydd, pwysau a mesurau ac ati. Ond yr oedd un gwahaniaeth mawr: yr ynadon lleol oedd yn ffurfio'r aelodaeth, yr oeddynt i gyd yn aelodau o'r dosbarth uchaf, ariannog a chawsent eu penodi nid eu hethol. yn Uwchgwyrfai, teulu Glynllifon oedd yr aelodau mwyaf cyson a dylanwadol.

Mae archifau cyfoethog y llys yn Archifdy Caernarfon[1] yn cofnodi gweithgaredd a phenderfyniadau'r Llys Chwarter, ac yn cynnig ffynhonell ddi-ail ar gyfer astudio hanes cymdeithasol Uwchgwyrfai.

Collodd y Llys Chwarter y rhan fwyaf o'i bwerau gweinyddol ar ffurfiad y cynghorau sir ym 1889; daeth i ben fel llys troseddol ym 1972.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1541-1888