Band Llandwrog
Yn ôl y North Wales Chronicle ar gyfer 9 Mai 1863, cynhaliwyd cyfarfod i sefydlu band ym mhentref Llandwrog.
Trefnwyd cyngerdd yn yr Ysgol ar 30 Ebrill 1863 i godi arian at ffurfio'r band, syniad a gychwynnwyd gan Miss Jones, Y Rheithordy. Ymysg y gynulleidfa oedd bonedd y fro, yn cynnwys teulu Plas Glynllifon: Hon. Mr. Wynne, a'r Misses Wynne, Glynllifon; Mrs. Jones a'r Misses Jones, Cefnycoed; y Parch. Ganon Jones, a'r Misses Jones, Y Rheithordy, a llawer iawn o rai eraill o "elite" y gymdogaeth, yn ôl y papur. Perfformiwyd y "Duke's March" gan Fand Milisia Caernarfon, dan arweiniad Mr. G. Hope, ynghyd â nifer o ddarnau eraill. Cafwyd Toriad y dydd a ganwyd gan J. Davies a Howel Roberts, encôr. Canodd Mr Davies hefyd "O tyr'd yn ôl fy ngeneth lân," gyda chyfeiliant gan Mr. Hayden. Anerchwyd y gynulleidfa yn y Gymraeg gan Howel Roberts am gerddoriaeth, Ymddangosodd Mr. R. Patrick, Y Bontnewydd, am y tro cyntaf o flaen cynulleidfa, gan ganu Excelsior. Y cyfeilydd oedd Mr. W. Hayden, Caernarfon, a fo hefyd oedd cyfeilydd Miss Evans, Cwm-y-glo,ar gyfer Gwenith Gwyn, Hen wlad fy nhadau a Clychau Aberdyfi. Caewyd y noson trwy i'r band chwarae Duw gadwo'r Frenhines.[1][2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma