Ynadon Heddwch Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:35, 20 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Penodwyd ynadon heddwch yng Nghymru am y tro cyntaf yn unol â'r Ddeddf Uno (1536), ac yn Sir Gaernarfon mae'n debyg i'r rhai cyntaf gael eu penodi erbyn 1541 os nad yn gynt.

Hanes Cyffredinol

Roedd y swydd yn Lloegr wedi ei sefydlu dan Ddeddf Ynadon heddwch 1361. Ni ddylid gwneud y camgymeriad, fodd bynnag, nad oedd system hollol drefnus ac effeithiol o gadw trefn cyn hynny, dan y Tywysogion ac wedyn dan reolaeth y Saeson, 1282-1536. Mae'r swydd o ynad yn parhau hyd heddiw, ond cafwyd newidiadau mawr yng nghanol y 19g pan sefydlwyd y Llys Bach (neu Llys yr Heddlu neu Sesiwn Fach) ac wedyn ym 1973, pan sefydlwyd Llys y Goron yn lle'r Llys Chwarter, lle eisteddai ynadon y sir i gyd dan gadeiryddiaeth barnwr profiadol.

Yn ystod cyfnod y teulu Tudur ar orsaf Lloegr (1485-1603) rhoddwyd mwy a mwy o ddyletswyddau ar ysgwyddau'r ynadon fel nad oeddynt yn cadw trefn yn erbyn troeddwyr yn unig, ond yn fwyfwy'n dod yn reolwyr y siroedd, gyda llawer o ddyletswyddau sifil, megis trwyddedu tafarndai, ysgwyddo cyfrifoldebau am bontydd cyhoeddus, goruchwylio cynnal y tlodion, sicrhau pwysau a mesurau teg, trwyddedu porthmyn a hyd yn oed, yng nghyfnod Oliver Cromwell, gweinyddu priodasau a gorfodu deddfau cadw'r Saboth.

Ceir manylion llawn am hanes a dyletswyddau'r ynadon mewn llyfrau cyffredinol.[1]

Ynadon Uwchgwyrfai

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Syr Thomas Skyrme, Justices of the Peace (Chichester, 1991), ac yn arbennig Cyfrol III lle ceir hanes manwl ynadon Cymru; ac F.T. Giles, The Magistrates Courts, (Pelican, 1949).