Pont Rhyd-ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:32, 13 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Rhyd-ddu ar yr hen ffin rhwng plwyfi Llanwnda a Beddgelert yng nghanol pentref Rhyd-ddu, dros Afon Gwyrfai neu Afon Llyn y Gader ar yr hon a elwyd ar amser codi'r bont yn "ffordd newydd rhwng ...Pont Cwellyn .. a Phont ar Golwyn". Fe godwyd pont garreg yno ym 1778-9 gan Lewis Ellis, iwmon a John Hughes, saer melinau, y ddau o Gaernarfon. Roedd y ffordd dros y bont yn 15' o led a'r bwa i fod yn 15' ar draws yr afon. Cost y gwaith oedd £20.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/153.