W.A. Provis
Roedd William Alexander Provis yn beiriannydd a syrfewr a fu'n gyfrifol fel peiriannydd preswyl Thomas telford wrth i Bont Menai gael ei chodi. Bu'n byw ger y Garth ym Mangopr tra oedd y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, a chafodd waith ar yr ochr (fel petai) yn gwneud yr arolwg a'r mapiau statudol ar gyfer adeiladu Rheilffordd Nantl;le ac yn y cyd-destun hwnnw mae ganddo le yn hanes Uwchgwyrfai. Mae eio fap gwreiddiol yn dangos llwybr y Rheilffordd Nantlle arfaethedig ar gael hyd heddiw yn Archifdy Caernarfon.