Mount Hazel
Saif plasty Mount Hazel ym mhlwyf Llandwrog, nid nepell o dreflan Tŷ'nlôn. Collfryn Bach oedd hen enw'r tŷ a'r ystâd fechan oedd ynghlwm, a dichon bod rhyw berchennog wedi teimlo mai enw israddol oedd o i eiddo a dyfodd yn blasty! Roedd yr enw wedi ei sefydlu erbyn dechrau'r 19g., pan oedd Thomas Lewis, yswain (Casglwr Trethi Caernarfon) a'i deulu'n byw yno.[1]
Pan werthwyd yr ystad ym 1882 gan Jane (merch-yng-nghyfaith Thomas Lewis),[2] roedd yr ystâd yn cynnwys nifer helaeth o ffermydd a gwahanol eiddo - Cae Llywarch, Mount Hazel, Ty ucha, Caellidiart ucha, Rallt, Tirion Twrog, Caeffridd, Tŷ bach, Taigwynion, Glanymorfa and Lleiniau ym mhlwyf Llandwrog yn unig,(ac a werthwyd i Ystâd Glynllifon[3] ac eiddo hefyd ym mhlwyfi Llanwnda, Carnguwch, Llannor, Pistyll, Edern a Deneio (sef Pwllheli).[4]
Wedi i'r eiddo fynd yn rhan o Ystâd Glynllifon, bu llawer o ailadeiladu ac ehangu ar y plasty, rhwng 1904 a 1928.[5] Honnir fod y 10fed Arglwydd Newborough wedi ei eni yn y plasty. Erbyn heddiw, mae'r tŷ yn cael ei osod i bartïon mawr o ymwelwyr. Mae o wedi ei foderneiddio ymhellach ac mae 8 o lofftydd yno.[6]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma