Pontlyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:34, 10 Mehefin 2019 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pontlyfni yn bentref ger y môr ym mhlwyf a chymuned Clynnog. Mae'n sefyll ar y brifordd A499. Bu siop gyffredinol yma hyd yn ddiweddar, ynghyd â chapel bach y Bedyddwyr. Mae yno fodurdy teuluol prysur sydd hefyd yn arddangos cerbydau amaethyddol a masnachol, a gerllaw ceir safleoedd i wersylla a charafanio. Mae Pont-y-Cim gerllaw. Yr oedd Melin-y-Cim yn y pentref. Mae'r ffaith fod y pentref yn cael ei enw o bont arall yn yr ardal, a hynny'n ddiweddarach, sef Pont Lyfni, nas codwyd cyn 1776 yn ôl pob tebyg, yn awgrymu mai yn y 19g a 20g y tyfodd y lle i fod yn bentref.

Roedd capel Bedyddwyr, Capel Seilo, ger bont y ffordd fawr. Yr ochr arall i'r ffordd, eto ar dalcen y bont, yr oedd tafarn y Boar's Head, a Swyddfa Bost. Roedd y Boar's Head yn agored ym 1914 ond wedi cau erbyn 1948 (yn ôl mapiau'r Ordnans).

Carreg fellt Pontlyfni

Mae Pontlyfni yn enwog ym myd seryddiaeth am ddigwyddiad ym mis Ebrill 1931, pan syrthiodd maen awyr (Carreg fellt Pontlyfni) i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug wedi sŵn aruthrol dros ardal eang.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau