Mount Hazel
Saif plasty Mount Hazel ym mhlwyf Llandwrog, nid nepell o dreflan Tŷ'nlôn. Collfryn Bach oedd hen enw'r tŷ a'r ystâd fechan oedd ynghlwm, a dichon bod rhyw berchennog wedi teimlo mai enw israddol oedd o i eiddo a dyfodd yn blasty! Roedd yr enw wedi ei sefydlu erbyn dechrau'r 19g., pan oedd Thomas Lewis, yswain a'i deulu'n byw yno.[1]
Pan werthwyd yr ystad ym 1882 gan Jane (merch Thomas Lewis), roedd yr ystad yn cynnwys nifer helaeth o ffremydd a gwahanol eiddo - Caelywarch, Mount Hazel, Ty ucha, Caellidiart ucha, Rallt, Tirion Twrog, Caeffridd, Ty bach, Taigwynion, Glanymorfa and Lleiniau ym mhlwyf Llandwrog yn unig,[2] ac eiddo hefyd ym mhlwyfi Llanwnda, Carnguwch, Llannor, Pistyll, Edern a Deneio (sef Pwllheli).[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma