Pont Faen (Clynnog Fawr)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:55, 10 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Faen ar Afon Desach ger Hendre-bach, Clynnog Fawr, ar y ffordd o Glynnog Fawr i gyfeiriad Llanllyfni. Fe'i hailadeiladwyd ym 1834 i ddyluniad a wnaed gan William Thomas, Pwllheli, syrfewr y sir ar y pryd. Yr adeiladydd oedd Henry Jones, saer maen anllythrennog o Bwllheli a gwnaethpwyd y gwaith am y swm o £41. Roedd gwaelod y sylfeini i fod o leiaf 2' o dan lefel y dŵr, gyda waliau 2' o drwch, wedi eu gwneud o gerrig.[1]

Codwyd y Bont Faen bresennol o'r newydd ym 1853 wedi i'r bont gael ei chwalu mewn llifogydd, 12 Rhagfyr 1852. Cost y bont oedd £130, ac fe'i dylunwyd gan John Lloyd, syrfewr y sir. Yr adeiladydd a gontractwyd ar gyfer y gwaith oedd Owen Pritchard, Bontnewydd, saer maen, oedd i fod i gwblhau'r gwaith erbyn 1 Medi 1853.[2]

Ni ddylid cymysgu'r bont hon gyda Pont Faen ger Saron, ar draws Afon Gwyrfai. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XPlansB/37.
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansB/38.