Gelli-ffrydiau
Mae Gelli-ffrydiau (neu'n aml, Y Gelli) yn un o brif ffermydd Dyffryn Nantlle. Fferm ddefaid ydyw, ac yn y gorffennol bu'n ymestyn i 465 o aceri, pan osodwyd ar rent gan y perchnogion y pryd hynny, sef Ystad Cinmel ger Abergele.[1][2] Mae'r sefyll i'r gogledd o'r ffordd rhwng Nantlle a Rhyd-ddu ger ben uchaf Llyn Nantlle Uchaf; mae nifer o nentydd bach neu ffrydiau'n rhedeg dros dir y Gelli i'r llyn. Enwyd y tŷ tyrpeg ar ôl y fferm, sef Tyrpeg Gelli, a hefyd Pont y Gelli gerllaw. Saif yn awr yng nghymuned Llanllyfni ond hyd at ail hanner y 20g, bu'n rhan o blwyf Llandwrog.
Fferm ddefaid ydyw'n bennaf, ac yn y gorffennol bu'n ymestyn i 465 o aceri, pan osodwyd ar rent gan y perchnogion y pryd hynny, sef Ystad Cinmel ger Abergele.[3] Achoswyd yr ail-osod gan fod Griffith Hughes, y tenant ar y pryd, yn ymadael. Mae nodyn fod arwerthiant ei holl stoc yn cynnwys y canlynol (gan ddyfynnu'r hysbyseb gwreiddiol):[4]
GWARTHEG: 10 o Fuchod Godro Cyfloion neu yn eu llawn broffit; Heffer 3 oed vn min dropio; 4 o Fustych Dwyflwydd Rhagorol; 6 o Heffrod Dwyflwydd; Tarw Dwyflwydd. CEFFYLAU: Caseg Wedd 5 oed, 15.3 o uchder, hwylus ym mhob gwaith; Caseg Wedd eto, 16 o uchder; Merlen 6 oed, 14.2 o uchder, hollol hwylus; Merlen Mynydd a'i Chyw; un eto yn codi'n ddwyflwydd. DEFAID: Tua 1200 o DDEFAID, sef holl gorlan, yn cynnwys Mamogiaid Cryfion at groesi, Myllt parod i'r cigydd, ac Ŵyn. Dymunir galw sylw arbennig at ragoroldeb y Defaid hyn. MOCH, Etc.: Hwch Dorrog.—Gwyddau, Fowls, Etc. OFFERYNAU: Engine Dorri Gwair; 18 o Feinciau Cneifio, Gwelleifiau, Clorian a Phwysau at bwyso gwlân, Corddwr, bron yn newydd, a Llestri Llaeth; Ger Bon a. Blaen, ynghyd â lluaws o bethau eraill rhy luosog i'w henwi.
Mae'n amlwg fod yr ardal wedi cael ei amaethu ers y cyfnod Rhufeinig, gan fod nifer o olion o gytiau hir a chrwn ar lethr y mynydd uwchben y Gelli.[5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma