Gelli-ffrydiau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:32, 17 Mai 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gelli-ffrydiau (neu'n aml, Y Gelli) yn un o brif ffermydd Dyffryn Nantlle. Mae'r sefyll i'r gogledd o'r ffordd rhwng Nantlle a Rhyd-ddu ger ben uchaf Llyn Nantlle Uchaf; mae nifer o nentydd bach neu ffrydiau'n rhedeg dros dir y Gelli i'r llyn. Enwyd y tŷ tyrpeg ar ôl y fferm, sef Tyrpeg Gelli, a hefyd Pont y Gelli gerllaw. Saif yn awr yng nghymuned Llanllyfni ond hyd at ail hanner y 20g, bu'n rhan o blwyf Llandwrog.

Mae'n amlwg fod yr ardal wedi cael ei amaethu ers y cyfnod cyn-hanesyddol, gan fod nifer o olion o gytiau hir a chrwn ar lethr y mynydd uwchben y Gelli.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), tt.193-4