Dôl Meredydd
Mae Dôl Meredydd yn gasgliad bach o dai ar y ffordd gefn o Glan-rhyd i Llandwrog. Mae'n sefyll o bobtu'r ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda. Prif nodwedd y pentrefan bach hwn heddiw yw'r rhes fer o dai a godwyd fel tai cyngor ar gyfer gweithwyr amaethyddol tua chanol y 20g. Cymerwyd yr oenw oddi wrth fferm Dôl Meredydd sydd gerllaw.