George Rhydero
Roedd y Parch George Rhydero, (1790-1867) yn weinidog ar gapel Drws-y-coed (A) rhwng 1839 a 1845. Yn wreiddiol o Benrhyd ger Caerfyrddin,[1] daeth i ardal Dyffryn Nantlle ar adeg pan oedd eglwysi annibynnol yn amlhau. Cyn cymryd gofal ar gapel Drws-y-coed, fodd bynnag, roedd wedi priodi Ann Williams o Landdeiniolen ar 31 Ionawr 1837 yn Llanddeiniolen - er ei fod o ar y pryd yn byw yn Llantrisant. Symudodd i weinidogaethu yn y Cilgwyn o bosibl, lle roedd Capel Cilgwyn (A) wedi ei godi ym 1842.[2] Erbyn 1845, cymerodd awenau wrth adeiladu capel cyntaf Capel Gosen (A), Y Groeslon, er nad yw hanes yr enwad yn ei enwi fel gweinidog ar y lle.[3] Serch hynny, mae sôn ei fod wedi bod yn ddiflino wrth geisio codi arian i godi'r capel yn Rhosnenan, fel y gelwid Y Groeslon y pryd hynny. Bu hefyd yn cadw ysgol ddyddiol i ddysgu darllen a rhifo, gyda Daniel Roberts, Brynengan, yn athro.[4]
Roedd ganddo fab, John Rhydero, a oedd yn gefnogol i ysgol Sul Capel Moel Tryfan (A).[5] Yn y man, symudodd John, a oedd yn deiliwr a dilledydd, i Fanceinion, gan fagu 6 o blant yn Gymry Cymraeg eu hiaith yn Great Jackson Street.[6]
Mae'n debyg i George Rhydero symud rywdro yn ystod y 1850au i Sir Fôn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma