George Rhydero

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:01, 25 Mawrth 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y Parch George Rhydero, (1790-1867) yn weinidog ar gapel Drws-y-coed (A) rhwng 1839 a 1845. Yn wreiddiol o Benrhyd ger Caerfyrddin,[1] daeth i ardal Dyffryn Nantlle ar adeg pan oedd eglwysi annibynnol yn amlhau. Symudodd i weinidogaethu yn y Cilgwyn o bosibl, lle roedd Capel Cilgwyn (A) wedi ei godi ym 1842.[2] Erbyn 1845, cymerodd awenau wrth adeiladu capel cyntaf Capel Gosen (A), Y Groeslon, er nad yw hanes yr enwad yn ei enwi fel gweinidog ar y lle.[3]

Roedd ganddo fab, John Rhydero, a oedd yn gefnogol i ysgol Sul Capel Moel Tryfan (A).[4]

Mae'n debyg iddo ddychwelyd wedi hyn i'r de i weinidogaeth.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. David Edward Pike, Blog Welldigger, [1]
  2. Cofnod o’r Capel ar wefan y Comisiwn Brenhinol
  3. T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4
  4. Rees a Thomas, op.cit., t.233.