Pont Wyled
Mae Pont Wyled yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros Afon Carrog, ger giat fferm Hen Gastell, tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y Dolydd lle mae Afon Wyled yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, er mai'r farn gyffredinol erbyn hyn yw mai Afon Wyled yn llifo i Afon Carrog,ac mae Afon Carrog felly sy'n llifo dan Bont Wyled! Roedd W. Gilbert Williams o'r farn fod syrfewyr mapiau'r Ordnans wedi cymysgu pethau, a'r Carrog yn llifo i mewn i Afon Wyled.[1]
Boed hynny fel y bo, codwyd y bont bresennol yn wreiddiol pan yr oedd y ffordd dyrpeg yn cael ei adeiladu tua 1810. Roedd hen bont dros yr afon, Pont Wen, lled cau ymhellach i'r gorllewin, lle rhedai hen lôn bost Pwllheli cyn agor y ffordd dyrpeg. Chwalwyd honno rywbryd tua chanol y 19g. Ar rai mapiau Ordnans, rhoddir yr enw Pont Wen i'r bont hon. Fodd bynnag, mae cofnod o dŷ Pontwyled mor gynnar â 1761, ac felly rhaid bod pont o ryw fath yno y pryd hynny.[2]