Pont Wyled
Mae Pont Wyled yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros Afon Carrog, ger giat fferm Hen Gastell, tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y Dolydd lle mae Afon Wyled yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, ond y barn cyffredinol yw mai Afon Wyled yn llifo i Afon Carrog,ac mae Afon Carrog felly sy'n llifo dan Bont Wyled!
Boed hynny fel y bo, codwyd y bont yn wreiddiol pan yr oedd y ffordd dyrpeg yn cael ei adeiladu tua 1810. Roedd yr hen bont dros yr afon, Pont Wen, lled cau ymhellach i'r gorllewin, lle rhedai hen lôn bost Pwllheli cyn agor y ffordd dyrpeg. Chawlwyd honno rywbryd tua chanol y 19g. Ar rai mapiau Ordnans, rhoddir yr enw Pont Wen i'r bont hon.