Pant-glas
Mae Pant-glas yn bentref bychan yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr, ar y briffordd A487 rhwng Pen-y-groes a Phorthmadog. Dim ond rhyw ddwsin o dai sy'n yma heblaw am ystad fechan o dai a godwyd fel tai cyngor. Mae yma gapel y Methodistiaid Calfinaidd yma (ac yr oedd un arall gan yr Annibynwyr yn y gorffennol) a hefyd yr oedd gorsaf reilffordd yma. Mae ffordd yn arwain at yr hen orsaf ac ardal Bwlch Derwin yn ymuno â'r briffordd ger y bont yng nghanol y pentref. Gyferbyn â cheg y ffordd honno yr oedd Tafarn Pant-glas a elwid hefyd yn Dafarn y Cross Pipes, sydd wedi cau ers blynyddoedd lawer. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac fe'i drowyd yn dŷ o'r enw Bwlch-yr-awel.[1] Yr un yw hanes siop a swyddfa bost yr ardal a safai ar ochr y lôn, ac a gaewyd tua 2010; bellach mae swyddfa bost deithiol yn galw yn y pentref yn achlysurol.
Roedd ysgol yn y cyffiniau, a fu'n ysgol eglwysig neu 'genedlaethol', sef Ysgol Ynys-yr-arch, a elwid ar un adeg yn ysgol Pant-glas er ei bod ryw filltir o'r pentref.
Ar lôn gefn nid nepell o'r pentref mae olion Capel Tai Duon (MC) lle mae mynwent yr ardal.
Mae'r canwr opera, Syr Bryn Terfel, yn fab fferm Nantcall Uchaf sydd ar gyrion y pentref.
Enwir Nancall, neu Nantcyll, ym mhedwaredd cainc Y Mabinogi, fel,safle brwydro ffyrnig rhwng dynion Gwynedd a Dyfed.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma