Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy
Sefydlwyd Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy yn sgîl Deddf Pysgodfeydd Eogiaid 1865 i reoli pysgota am eogiaid rhwng Trwyn-y-tâl ger Trefor a Phwynt Garth, Bangor, ynghyd ag aberoedd ac afonydd Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy a'u holl flaen-nentydda llednentydd. Roedd yr ardal i gynnwys hanner Afon Menai ar ochr Sir Gaernarfon o Aber Menai ymlaen.
Gosodwyd tymor atal pysgota eogiaid gyda rhwydi a gwialenni pysgota gan y bysgotfa rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill bob blwyddyn.