Richard Wilson
Hanai Richard Wilson yr arlunydd byd-enwog o Benegoes, Sir Drefaldwyn lle 'roedd ei dad yn ficer. Ar ochr ei fam, roedd yn perthyn i deulu Plas Coed-llai, Sir Ddinbych, a thrwy hynny, roedd yn gyfyrder (ail gefnder) i Richard Garnons o Golomendy, Sir Ddinbych, a Phlas Du, Dyffryn Nantlle.[1]
Roedd Wilson yn enwog am ei dirluniau, ac un o'r rhai mwyaf enwog yw'r hwnnw o'r Wyddfa o Ddyffryn Nantlle. Ropedd Dyffryn Nantlle yn ur ddiarffordd yn y 18g, ac aeth y rhan fwyaf o deithwyr pleser i Eryri trwy Dyffryn Ogwen neu Feddgelert. Rhaid felly dybio fod ei berthynas weddol agos efo Garnons a Phlas Du y rheswm am iddo ymweld â Dyffryn Nantlle - er hyd yn hyn ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i ble fyddai fo wedi aros, ym Mlas Du neu yn nhŷ'r teulu yng Nghaernarfon, sef Plas Llanwnda.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Y Casglwr, Rhif 50, (1993), tt.9-12