Gorsaf reilffordd Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:58, 24 Hydref 2017 gan Robin Owain (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gorsaf y Groeslon oedd y drydedd orsaf ar ôl Caernarfon ar lein Caernarfon-Afon-wen, milltir a 200 llath ar ôl gorsaf LLanwnda a bron i 2 filltir cyn cyrraedd gorsaf Pen-y-groes. Fe'i hagorwyd ym 1867 a chan fod yr orsaf yn gwasanaethu nid pentref Y Groeslon yn unig ond hefyd pentrefi Carmel, Y Fron a'r wlad o'u cwmpas, roedd yn orsaf brysur ar gyfer teithwyr. Gallai trenau basio ei gilydd yma, ac mae olion y ddau blatfform i'w gweld o hyd. Roedd y platfform yn isel ar ochr y ffordd fawr a rhaid i deithwyr wrth set o stepiau bach i gyrraedd y cerbydau'n ddiogel.

Adeilad bach unllawr wedi ei adeiladu yn null cwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon oedd yr orsaf, ond fe ddymchwelwyd yn fuan wedi i'r lein gau.

Roedd un seidin ar gyfer dadlwytho glo a nwyddau eraill. Nid oedd yno focs signalau, ac roedd liferau'r signalau a'r pwyntiau yn agored i'r tywydd ar y platfform.

Galwyd Y Groeslon yn 'Groeslon RSO', sef Swyddfa Ddidoli'r Rheilffordd - nid fod dim o eiddo'r rheilffordd yn cael ei ddidoli, ond yr holl bost a gyrhaeddai'r orsaf ar y trên ac a ddanfonid oddi yno o'r ardaloedd cyfagos.

Fe gaewyd yr orsaf gyda gweddill y lein ym 1964.

Ffynonellau