Chwedl Ynys yr Arch
Chwedl yw hanes enw Ynys yr Arch, ger Bwlchderwin, Clynnog-fawr.
Credir i’r lle hwn ei enwi ar ôl marwolaeth Beuno Sant. Gan fod cymaint yn mynnu ei fod angen ei gladdu yng Nghlynnog, yn Aberffraw ac ar Ynys Enlli – roedd ansicrwydd ynglŷn a lle roedd am ei gladdu. Roedd dynion yn cario ei arch ger y llecyn yma o dir, ger Bwlchderwin, ac un noson rhoddwyd gorau i’r daith am ychydig er mwyn iddynt orffwys. Yn ôl adroddiad W.R. Ambrose, pan roeddynt yn codi, dyma’r dynion yn sylweddoli fod tair arch yn y man lle roedd arch Beuno, ac nid un. Roeddynt wedi sylweddoli fod Beuno, trwy rhyw wyrth wedi rhannu ei gorff mewn tair arch fel bod modd ei gladdu yn y tri lle arbennig. Dyma sut y daeth y man hwn ei enwi yn "Ynys yr Arch".
Cymerwyd yr enw fel enw ar yr ysgol genedlaethol a godwyd yma yng nghanol y 19g, sef Ysgol Ynys-yr-arch.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Ffynhonnell
Ambrose, W. R. ‘’Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle’’ (Penygroes, 1872)