Ystad Glynllifon
Ystad Glynllifon oedd prif ystad [[[Uwchgwyrfai]]], gyda'i chanolfan ym Mhlas Glynllifon tua hanner milltir o bentref Llandwrog. Mi berchnogai diroedd ym mhob plwyf Uwchgwyrfai pan oedd ar ei mwyaf yn y 19g, a llawer o diroedd eraill o gyrion Dinbych ac Ynys Môn i bellafion Pen Llŷn.
Cychwyniad
Bu Teulu'r Glynniaid yn berchen ar ystad yn ardal Dinlle o gyfnod cynnar iawn. Dywedir chwedlau mai Cilmin Troed-ddu oedd sylfaenydd cyfoeth y teulu, wedi iddo ddarganfod crochan yn llawn aur ar lethrau'r Eifl tua'r flwyddyn 1100. Beth bynnag am hynny, roedd aelodau'r teulu'n aelodau pwysig o lysoedd y Tywysogion ac wedyn yn gwasanaethu Brenin Lloegr a dichon daeth cyfoeth o'u cysylltiadau â'r awdurdodau.
Yr ystad yn tyfu
Tua Priododd Thomas Glynn, mab hynaf Syr Thomas Glynn ag Elen, etifeddes Owen ap Robert Owen o Blas Bodafon y Glyn, nid nepell o Foelfre, Ynys Môn, gan ddod ag ystad sylweddol yng nghanol Môn yn ei sgil.
Yn y 17g, priododd Frances, merch John Glynn, uchel siryf y sir (1668-9) â Thomas Wynn o Foduan yn Llŷn. Efallai oherwydd agosrwydd Glynllifon at Gaernarfon, canolfan y sir, symudodd teulu'r Wynniaid i Blas Glynllifon i fyw, gan uno ystadau Glynllifon a Boduan. Dyma sut y daeth Ynys Enlli, ymysg llawer o eiddo arall, yn rhan o ystad Glynllifon. Yn nystod hanner cyntaf y 18g, fe briododd eu hunig fab, John Wynn â Jane Wynne, etifeddes Melai, Llanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, Dyffryn Conwy. Ychwanegodd hynny diroedd yn ardal Dinbych, Melai, ucheldir Cwm Eigiau a ffermydd a fyddai'n dod yn ffynhonell cyfoeth mawr maes o law ym mhlwyf Ffestiniog.[1]
Yr ystad ar ei mwyaf
Mae arolwg o'r ystad a wnaed tua 1815, yn dangos fod gan yr ystad eiddo yn yr holl blwyfi canlynol: Boduan, Llangian, Llanengan, Llanfaelrhys, Aberdaron ac Enlli, Bryncroes, Mellteyrn, Llangwnnadl, Tudweiliog, Edern, Nefyn, Carnguwch, Llanfihangel y Pennant, Llandwrog, Abererch, Llanystumdwy, Llanarmon, Pistyll, Penmorfa, Llanfaglan, Llannor, Penrhos, Llangwnnadl, Deneio , Llanwnda, Dwygyfylchi, Conwy, Caerhun, Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llanllyfni, Llanbeblig, Llanrug, Penllech, Llanddeiniolen, a'r Gyffin, i gyd yn Sir Gaernarfon. Hefyd, yn Siur Fôn, roedd gan yr ystad eiddo ym mhlwyfi Llangadwaladr, Llanfechell, Penrhosllugwy, Llanfwrog, Caergybi, Llanfflewin, Amlwch, Llanrhuddlad, Llanfihangel Tre’r Beirdd, Aberffraw, Llanfair Mathafarn Eithaf a Llanbedrgoch, Niwbwrch, a Llangeinwen; Llanfair Talhaearn, Llanrhaeadr Dyffryn CLwyd, Gwytherin, Llansannan, Llangernyw yn Sir Ddinbych ac ym mhlwyfi Ffestiniog a Llandecwyn yn Sir Feirionnydd.[2]