Mynydd y Cilgwyn
Mynydd cymharol ddi-nod ynddo'i hun yw Mynydd Cilgwyn a welir yn glir o bron bob man yn Uwchgwyrfai uwchben pentref Carmel. Mae'r copa yn 347 metr neu 1138 troedfedd o uchder.[1]
Mynydd heb unrhyw arwyneb creigiog sylweddol ydyw, wedi ei orchuddio'n bennaf gyda grug ac eithin. Enwogrwydd y man yw'r ffaith mai dyma y cychwynnodd diwydiant llechi Dyffryn Nantlle. Mae tystiolaeth bendant bod cloddio yma ym 1745,[2] pan osodwyd prydles gan asiant y Goron dros Tir y Goron sef Tir Comin Moel Tryfan er dywedir bod llechi wedi dod oddi yno hefyd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ac wedyn tua 1300.
Prif leoliad chwarelydda ar y mynydd yw'r llethrau deheuol yn edrych dros Ddyffryn Nantlle, lle datblygodd Chwarel Cilgwyn yn nifer o dyllau dwfn iawn. Erbyn hyn mae rhai wedi eu llenwi gydag ysbwriel.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma