Tir Comin Moel Tryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:03, 26 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y mae tir comin Moel Tryfan' yn rhan o diroedd y Goron y sir. Roedd arfer ffurfio mynydd agored rhwng llethrau gogleddol Dyffryn Nantlle a Dyffryn Gwyrfai, gyda'r mynydd isel Moel Tryfan yn ei ganol. Yr arfer oedd gosod y tir ar brydles i dirfeddianwyr lleol, ac yn y 18g Ystad Glynllifon oedd yn dal y brydles. Ym 1796, fodd bynnag, diddymwyd y les am ddiffyg perfformiad, gan ei roi i eraill oedd am agor chwareli, yn cynnwys John Evans.[1]

Gan nad oedd neb â rheolaeth dros y comin cyfan, bu llawer o setlo answyddogol gan dyddynwyr-chwarelwyr lleol, sydd wedi arwain at batrwm anheddu gwasgaredig.

Mae'r Goron yn dal i arddel ei hawliau ar y comin hyd heddiw.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. GwynforPierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.219