Chwarel Coedmadog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:19, 22 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Coedmadog, neu fel y gelwir weithiau Gloddfa Glai yn Nhal-y-sarn. Twll agored oedd hi.

Agorwyd y chwarel hon ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar dir ystâd Coedmadog, wrth ymyl Cloddfa'r Coed. Erbyn yr 1880au, Cwmni LLechi Coed Madog oedd yn gyfrifol am ei gweithio. Yn 1883 roedd 135 o weithwyr yn gyflogedig yno, ac roeddynt yn cynhyrchu 2,879 tunnell o lechi. Codwyd tramffordd fewnol erbyn 1877, gydag injan stêm De Winton erbyn y diwedd. Ddaru'r chwarel gau yn 1908-9, er bod gwaith ar raddfa fechan yno hyd 1920. Roedd cyswllt yma hefyd gyda Rheilffordd Nantlle, ond o 1881 ymlaen roedd cyswllt uniongyrchol gyda'r LNWR - yr unig chwarel i wneud hyn yn yr ardal.

Dyma'r chwarel gyntaf yn Nyffryn Nantlle i gael ei dirlunio a llenwi'r twll a chwalu'r tipiau, gan greu gofod chwarae

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynhonnell

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)