Chwarel Fein-goch
Chwarel Fein-goch oedd un o dyllau Chwarel Cilgwyn yn y diwedd, ond mi gychwynnodd fel chwarel ar wahân, wedi ei rhedeg gan nifer o bartneriaid, sef John Price, Thomas Jones, John Evans a Richard Roberts a gafodd brydles i chwarelydda ar dir y Goron tua 1800. Erbyn 1810 roeddent yn defnyddio tramffordd i gludo ysbwriel cloddio i'r domen, y rheilffordd gyntaf y clywir amdani yn Nyffryn Nantlle. Roedd y twll yn dal i gynhyrchu, mae'n debyg - a barnu oddi wrth fapiau'r Ordnans - hyd ddiwedd y ganrif.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
.
- ↑ GH Williams, Swn y tren sy'n taranu, (Caernarfon, 2018).