Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon
Ganwyd Robert Hughes ar 25 Mawrth 1811 ym Modgared, Rhostryfan, plwyfLlanwnda, cartref ei fam, Catrin Owen. Bu ei dad yn ffermio mewn tri lle ym mhlwyf Llandwrog- Bryngwyn, Llwyn-y-gwalch a Thyddyn Tudur. Ym 1824 crëwyd Parc Glynllifon gan y meistr tir, yr Arglwydd Newborough a chwalwyd Tyddyn Tudur. Tra'n byw yno bu Robert Hughes yn ddisgybl yn ysgol Dafydd Ddu Eryri (1759-1822). Symudodd y teulu i fferm Moelfre Fawr yn Llanaelhaearn. Daeth R.H., wedi tyfu'n ddyn, yn enwog i gylch eang fel ffermwr Uwchlaw'r Ffynnon, Llanaelhaearn, yn un o sefydlwyr a gweinidog achos y Babell (M.C.) yn y pentref, ac yn bregethwr teithiol gyda rhai fel John Jones, Tal-y-sarn, ac eraill. Wedi pasio'r hanner cant oed daeth yn arlunydd o'r math a elwir yn 'arlunydd naïf'.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Geraint Jones : Gŵr Hynod Uwchlaw'r Ffynnon, passim.