Yr Eifl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:53, 25 Medi 2018 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mynyddoedd Yr Eifl yw'r ffin deheuol Cwmwd Uwchgwyrfai. Mae enwau unigol a nodweddion arbennig i'r tri mynydd:

Yr Eifl

Yr Eifl yw'r tri mynydd gosgeiddig sy'n ffurfio ffin orllewinol cwmwd Uwchgwyrfai â chwmwd Dinllaen. Maent hefyd yn ffin rhwng cantref Arfon a chantref Llŷn. Ystyr yr enw yw dwy afl (dau fwlch) sydd i'w gweld rhwng y mynyddoedd. Yr enw unigol yw 'gafl' a'r lluosog yw 'gaflau'. Ond yn achos yr Eifl, defnyddir 'geifl' sef y gair deuol - gair am DDAU yn unig.

Garnfor

'Garn' a 'môr' yw'r ddwy elfen geir yn yr enw hwn. Dywedwyd gan un llenor fod y mynydd hwn "â'i ben yn y cymylau a'i draed yn yr heli". Mae godre'r mynydd yn plymio'n glogwyn serth i'r môr fel Trwyn y Gorlech (ar fap) neu'r Fraich Las (ar lafar). Yr enw llafar ar Garnfor yw Mynydd Gwaith, oherwydd mai ar lethrau gogleddol y mynydd mae Chwarel yr Eifl, chwarel ithfaen fwya'r byd yn ei hanterth. Agorwyd y chwarel gyntaf yn y 1840au ar Graig y Farchas, yn sawdl y mynydd. Chwarel dwy bonc yn unig oedd hon.

Garn Ganol

Ceiri

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma