Cwmni Bysiau Busy Bee

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:24, 21 Medi 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwmni o Gaernarfon oedd Cwmni Bysiau Busy Bee. Richards oedd cyfenw'r perchennog. Fe werthwyd y cwmni i Gwmni Bysiau Crosville yn ystod mis Tachwedd 1925. Roedd ganddynt ddau brif daith, o Gaernarfon i Borthmadog a Phwllheli, yn ogystal â theithiau i Lanberis a Dinorwig.[1]. Rhoddodd Crosville rhif 535 ar eu taith i Bwllheli, a 538 ar y daith i Bwllheli.[2]

Wrth werthu'r cwmni, trosglwyddwyd pedwar bws i Gwmni Crosville:

  • bws AEC, model 503, 36 o seddau, rhif CC 5011, y rhoddwyd rhif fflîd 197 iddo gan Crosville.
  • bws AEC, model 505, 32 o seddau, rhif CC 5124, y rhoddwyd rhif fflîd 198 iddo gan Crosville.
  • bws Lancia Pentaiota, 26 o seddau, rhif CC 4860, y rhoddwyd rhif fflîd 199 iddo gan Crosville.
  • bws Lancia Pentaiota, 26 o seddau, rhif CC 4958, y rhoddwyd rhif fflîd 200 iddo gan Crosville.

Dichon nad oedd y ddau Lancia yn plesio'r cwmni newydd, gan i'r ddau gael eu gwerthu ym 1926. Gwaredwyd yr AEC cyntaf ym 1928 ond roedd y llall yn para hyd 1931.[3]

Ceir llun da o un o'r bysiau Lancia ym Mhorthmadog ym 1924 ar dudalen Flickr Martin Pritchard, [4].

Cyfeiriadau

  1. K.A. Jaggers, Buses around Bangor[1]
  2. W.J. Crosland-Taylor, Crosville - the Sowing and the Harvest (Lerpwl, 1948), tt. 132, 136.
  3. Peter Gould, Crosville Motor Services Ltd. Bus Fleet List Part 1 (1911-1930) [2]
  4. [3]