Seidin Tan'rallt
Seidin ar gyfer llwytho llechi oedd Seidin Tan'rallt ar y lein rhwng Pen-y-groes a Thalysarn. Gwasanaethai chwareli ar ochr dde Dyffryn Nantlle, trwy gyfrwng Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon, sef tramffordd a ddefynyddiai ceffylau i dynnu'r wagenni 3' 6" o led.[1] Fe agorwyd yn yr 1850au ond fe'i chaewyd rywbryd tua 1915 mae'n debyg.[2] Un neu ddwy drên nwyddau y dydd fyddai galw yno, ac hynny os oedd angen. Roedd y seidin tua 550 llath cyn ben draw'r lein yng Ngorsaf Nantlle.[3]