Plas-yn-Bont

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:14, 15 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Codwyd plasty Plas-y-bont ym 1612 gan y clerigwr a'r diwinydd Huw Lewis. Fe elwir weithiau'n "Blas-yn-bont" mewn dogfennau. Dichon fod tŷ cynharach yno, a elwid yn Bodellog ar ôl y trefgordd y safai ynddo. Nid yn y tŷ hwnnw y cafodd Huw Lewis ei fagu, yn fwy na thebyg, gan i'w dad, Lewis ap William, dderbyn brydles 21 mlynedd ar y lle gan ystad y Faenol ym 1584, ugain mlynedd wedi i Huw Lewis gael ei eni. Mae Plas-y-bont yn dal i sefyll heddiw, ychydig lathenni i'r de o lan Afon Gwyrfai, ym mhlwyf Llanwnda.[1]

Mae'r tŷ deulawr yn edrych fel pe bai wedi ei moderneiddio ers hynny ond mae llawer o'r ffabrig gwreiddiol yn dal yno. Yn wreiddiol, adeilad gweddol fach hirsgwar oedd yno ond tua 1700 adeiladwyd estyniad i'r dalcen ddeheuol a chodi estyniad i'r gorllewin. Yn ystod y 18g, cafwyd estyniad ar y dalcen ogleddol hefyd. Nid yw siâp yr adeilad wedi newid ers hynny, ac mae'n deyg fod y rendring stwco ar rannau o'r waliau allanol hefyd yn dyddio o'r 18g. Mae'r grisiau mewnol, y gwaith wensgot a nodweddion eraill hefyd yn wreiddiol, er bod popeth wedi moderneiddio ar yr olwg gyntaf.[2]

Wedi i Huw Lewis y clerigwr farw ym 1634, maer'n bosibl i'w fab Morgan ap Huw Lewis a'i wraig Margred, merch Owen Wynn o'r Glasgoed, fyw yno hyd 1641 pan fu farw yntau. Roedd Huw Lewis arall, ŵyr i'r Huw Lewis cyntaf, a mab hynaf y Canon Morgan Lewis a Mary Wynn o Daltreuddyn, yn berchen ar Plas-y-bont. Roedd o'n briod â Jane Twisleton o'r Lleuar Fawr. Bu farw ym 1729 yn 35 oed a daeth y tŷ i feddiant ei fab, Huw Lewis arall. Erbyn hyn, roedd statws ac arian yr hen deulu'n dechrau edwino, a'r plas yn ymdebygu i fawr mwy na ffermdy, canys dyna bellach oedd prif waith y teulu.. Er iddo fedru hawlio ei fod yn un o fân ysgweieriaid plwyf Llanwnda, roedd o hefyd yn nodedig am ei fedd-dod llawen yn nhŷ tafarn un Feistres Gruffudd. Mae un cerdd gwatgwarus yn son am "Huw Lewis hy lawen a Huws o Fodaden" fel dau a fynychai'r dafarn yn gyson, a ac a fu mor feddw fel nad oeddent yn gallu dweud y gwaahaniaeth rhwng llwynog byw ac un marw!

Beth bynnag am hynny, roedd yr Huw Lewis olaf hwn yn berchen ym 1759 pan fu farw ar ystad oedd yn cynnwys Plas-y-bont, Pen y Clip, Tŷ Cnap, Cefn hendre, Traean, Gwaredog, Cae'r Moel, tri thŷ ger y Bont Newydd a Thy'n Llan yn Llanwnda; Llwyn Piod, Cae Bongam a Bwlan ym mhlwyf Llandwrog; Tai Hirion ym mhlwyf Clynnog Fawr; LLwyn y Brain yn Llnrug; ac ambell i eiddo arall - sef ystad nid bychan i gymharu â llawer un.

Etifeddodd ystad Plas-y-bont gan ferch Huw Lewis, sef Elisabeth Evans, a oedd wedi priodi â Charles Evans o'r Llethr Ddu, plwyf Llanaelhaearn a Threfeilir ym Môn, ac yn y man aeth y tiroedd hyn yn rhan o ystad fwy o lawer, Henblas, Sir Fôn.[3]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W Gilbert Williams, Hen deuluoedd Llanwnda. II - Lewisiad Plas-yn-Bont, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.5 (1944), tt. 41-5.
  2. Comisiwn henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf II, (Llundain, 1960), tt.221-2.
  3. W Gilbert Williams, op. cit., tt.46-48.