Richard Farrington

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:52, 12 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd Richard Farrington (1702 – 16 October 1772) yn offeiriad Anglicanaidd a hynafiaethydd. Roedd o'n ficer Llanwnda am dros 30 o flynyddoedd, 1741-72..

Cafodd ei eni ym 1702 yn fab i Robert Farrington, Caer, a'i wraig (Elisabeth, neé Jones, o Gefn Ysgwyd, Llechylched, Môn). Fe raddiodd o Goleg yr Iesu, Rhydychen ym 1724. Cafodd ei ordeinio a derbyn swydd curad yng Ngresffordd ger Wrecsam yn ôl pob tebyg, cyn symud i blwyf Brwmffild, ac yn y man cael cysylltiad ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy ym 1739. Symudodd i fyw i Blas Dinas ar ei benodiad yn ficer Llanwnda a Llanfaglan ym 1741, rheithor Llangybi ym 1742 a changhellor Eglwys Gadeiriol Bangor ym 1762. Ymddiswyddodd o'r penodiadau hyn i gyd ym 1772, gan farw yng Nghaerfaddon yn ddiweddarach y flwyddyn honno , (16 Hydref) yn 71 oed.

Dywedir iddo ennyn parch ei blwyfolion, ac yr oedd yn gefnogol iawn i ysgolion cylchynnol y fro.

Buddsoddodd yng ngwaith copr Drws-y-coed, a gweithfeydd copr mewn mannau eraill hefyd. Fe'i adnabuwyd fel hynafiaethydd, gyda diddordeb penodol yn Sir Gaernarfon. Ysgrifennodd tri thestun llawysgrif sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, Numismata Dinlleana, The Druid Monuments of Snowdonia a Celtic Antiquities of Snowdon. Ymysg ei waith arall oedd Twenty Sermons by R Farrington (1742).[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.245