Mynachdy Gwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:55, 3 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Mynachdy Gwyn, hen gartref teulu Meredyddiaid yn y 16-18g, yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr, nid nepell â'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau Bwlch Mawr ger fferm Hengwm. Er bod y tŷ presennol yn hynafol, mae rhannau o dŷ hŷn yn gynwysedig yn y ffabrig, ac yn dyddio'n ôl i'r 16g.[1] Roedd y teulu'n dirfeddianwyr o sylwedd, ond heb fod ymysg y rhai mwyaf sylweddol. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o un o deuluoedd mwyaf y fro, sef Teulu Glynniaid Glynllifon, efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.

Mae cofebion i ddauo'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf. 2, t. 45
  2. CHC, op.cit., t.40