Pont Rhyd-y-meirch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:32, 3 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Rhyd-y-meirch yn bont droed ar y ffordd drol rhwng traeth Dinas Dinlle a fferm Cefnhengwrt, lle mae'n croesi Afon Rhyd. Hen bont slabiau ydyw, sy'n dyddio, mae'n debyg, o ddyddiau cau tiroedd y morfa tua 1808. Mae'r ffordd drol ei hun yn croesi'r afon trwy ryd sydd gerllaw.